Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y tymor hwn, yn ogystal â manylion gwaith yn y dyfodol a sut i gymryd rhan.

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl ymgysylltu â’n gwaith. Os hoffech gysylltu â ni, neu roi adborth ar y cylchlythyr hwn, cysylltwch seneddiechyd@senedd.cymru.

 

 

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

 

Y tymor hwn, rydym wedi clywed tystiolaeth lafar gan randdeiliaid allweddol i lywio cam 2 yr ymchwiliad. Gwnaethom hefyd gynnal digwyddiad rhanddeiliaid ddiwedd mis Chwefror a chyhoeddi nodyn o’r cyfarfod hwnnw.

 

Ar ôl toriad y Pasg, byddwn yn cynnal ein sesiynau tystiolaeth terfynol cyn troi ein sylw at ddrafftio’r adroddiad.

 

Mae'r holl fanylion i’w gweld ar ein gwefan.


 

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol

 

 

 

Ar ôl cwblhau ein gwaith casglu tystiolaeth cyn toriad y Nadolig, rydym bellach wedi cytuno a chyhoeddi ein hadroddiad, sy’n gwneud nifer o argymhellion i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Disgwyliwn gael ymateb y Gweinidog o fewn 6 wythnos a byddwn yn ei adolygu cyn penderfynu ar unrhyw gamau nesaf. 

 

Gallwch ddilyn ein gwaith ar dudalen gwe’r ymchwiliad.

 

 

 

Atal iechyd gwael – Gordewdra

 

 

Rydym wedi cytuno i ddechrau gweithio ar ymchwiliad newydd, yn edrych ar atal iechyd gwael sy’n ymwneud yn benodol â gordewdra.

 

Mae gordewdra’n cael ei gydnabod fel un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae nifer yr achosion yn cynyddu yng Nghymru (ac mewn mannau eraill), gyda chymunedau mwyaf difreintiedig yn gweld lefelau llawer yn uwch o ordewdra. Mae gordewdra yn ffactor risg allweddol ar gyfer ystod eang o glefydau cronig, gan gynnwys diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, clefyd cardiofasgwlaidd (gan gynnwys strôc), a rhai canserau. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant pobl, ansawdd eu bywyd, a’u gallu i weithio.

 

Bydd ein gwaith yn ystyried effeithiolrwydd strategaeth, rheoliadau, a chamau gweithredu cysylltiedig Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru.

 

Rydym wedi lansio galwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 7 Mehefin 2024. Mae manylion llawn yr ymchwiliad, gan gynnwys y cylch gorchwyl a gwybodaeth am sut i ymateb i’n hymgynghoriad, ar gael ar ein tudalen gwe.

 

Canserau gynaecolegol

 

 

Ers ein cylchlythyr diwethaf, rydym wedi derbyn ymateb i’n hadroddiad.

 

Byddwn yn trafod ein hadroddiad ac ymateb y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Mai 2024 ac, wrth baratoi ar gyfer hynny, rydym wedi gwahodd rhanddeiliaid i rannu eu barn â ni ar ymateb y Gweinidog.

 

 

 

 

 

 

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

 

 

Ar 17 Ionawr, cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i drafod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Gallwch wylio’r sesiwn ar Senedd TV.

 

Yn dilyn y sesiwn honno, cyhoeddwyd ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion i’r Gweinidogion, ac rydym bellach wedi cael eu hymateb.

 

Ar 7 Mawrth, cynhaliodd y Senedd ddadl ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.

 

 

 

 

 


Gwrandawiadau cyn penodi

 

Ar 24 Ionawr, cynhaliodd y Pwyllgor wrandawiad cyn penodi gydag ymgeisydd dewisol Llywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ar 30 Ionawr, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Dyfed Edwards wedi’i benodi i’r swydd.

 

Ar 25 Ebrill, cynhaliodd y Pwyllgor wrandawiadau cyn penodi gydag ymgeiswyr dewisol Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi Cadeiryddion Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a  Hywel Dda. Yn dilyn hynny, cadarnhawyd penodi Jan Williams a Neil Wooding (yn y drefn honno).

 

Mae’r Pwyllgor yn dymuno’n dda i bob ymgeisydd yn eu rôl newydd.

 

Gellir gweld adroddiadau pob gwrandawiad cyn penodi ac ar ôl penodi ar dudalen we’r Pwyllgor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Maes o Ddiddordeb Ymchwil: arloesi ar gyfer gwella gofal iechyd

 

Rydym wedi cyhoeddi’n ddiweddar Faes o Ddiddordeb Ymchwil ar arloesi ar gyfer gwella gofal iechyd.

 

Mae gennym ddiddordeb dysgu sut y gallai’r GIG harneisio pŵer technolegau newydd i wella diagnosis, triniaeth a gofal cleifion, a hoffem glywed gan ymchwilwyr sy’n gweithio i ddatblygu dulliau therapiwtig newydd a’r defnydd o dechnolegau newydd a allai helpu i sbarduno arloesedd ym maes gofal iechyd Cymru. 

 

Mae manylion llawn y Maes o Ddiddordeb Ymchwil, gan gynnwys sut i gofrestru eich arbenigedd a'ch mewnwelediadau ymchwil yn y maes hwn, ar gael ar ein gwefan.

 

 

 

Blaenraglen waith

 

Gallwch ddod o hyd i fanylion am ein gwaith hyd yn hyn a’n blaenraglen waith ar ein gwefan.

 

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ar Twitter yn @seneddiechyd.